Ymgynghoriaeth TARO Consultancy
Aseiniadau Diweddar
Pwy ydym ni
Aseiniadau Diweddar
Cysylltwch â ni

Mae aseiniadau diweddar a gyflawnwyd gan Ymgynghoriaeth Taro Cyf. wedi cynnwys:

# Adolygu Proses Ad-drefnu'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru;

# Adolygiad Cyfundrefnol (gyda Pamela Whitford-Jackson Associates) o Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chyngor Gwynedd;

# Datblygu a Hwyluso ar ran Awdurdod Datblygu Cymru Cynllun Gweithredu ar gyfer Adfer Cefn Gwlad i Fforwm Economaidd Gogledd Cymru;

# Adolygu perthnasedd Strategaeth Datblygu Gogledd Cymru a'r Cynllun Gofodol Cymru;

# Adolygu Strategaeth Relate Cymru, ac hefyd Recriwtio Ymddiriedolwyr ychwanegol i ymyno a Bwrdd Relate Cymru;

# Adolygiad cyfamser o gyfansoddiad a blaenoriaethau strategol Partneriaeth Twristiaeth Gogledd Cymru;

 # Hwyluso ar gyfer Adran Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, Llywodraeth Cynulliad Cymru Cynllun Braenaru Gwynedd ac Ynys Môn yn ymwneud ag Addysg ôl-16;

# Cynorthwyo cwmnïau yn y sector preifat i adolygu addasrwydd eu cynnyrch er mwyn galluogi Awdurdodau Lleol i ymateb i'r agenda E-lywodraeth;

# Cynghori THI ar agweddau economaidd datblygu safleoedd yn Ewrop gan gynnwys Ty Mawr, Ynys Môn

# Cynnal Arfarniad Diwedd Prosiect CDRE (ERDF) o Gyswllt Busnes Plws (Gogledd Orllewin Cymru)

# Cynnal Arolwg Ymgynghoriad Busnes ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy;

# Paratoi Strategaeth Adfywio ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy;

# Paratoi Strategaeth Sgiliau (gyda Aspire & Transform) ar gyfer Cyngor Dinas Leeds;

# Gwaith datblygu (gyda Phoenix Consultancy) ar gyfer gweithwyr gwyddonol proffesiynol y GIG;

# Adolygu gweithdrefnau cofrestru gweithwyr gwasanaethau iaith proffesiynol ar gyfer Cyngor Hybu Cyfathrebu gyda Phobl Fyddar;

# Adolygiadau Llywodraethu Corfforaethol a Pharatoi Papurau Polisi ar gyfer y Comisiwn Archwilio yng Nghymru;

# Recriwtio (gyda SPA) Prif Weithredwr i Gyngor Sir Ynys Môn; Cyfarwyddwr Gwlad, Cymru i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Chyfarwyddwr Gweithredol, Celf Cyhoeddus Cymru;

# Prosiect Mapio (gyda Artemis Consulting) ar ran Cyngor Gwasanaethau Gwybodaeth a Llyfrgelloedd (Cymru) o weithgarwch llyfrgelloedd mewn perthynas a chynhwysiant cymdeithasol;

# Astudio opsiynau Defnydd Tir yn safle San Pancras Llyfrgell Prydain;

# Aseiniadau Mentora.

English PagesTudalennau Cymraeg