Mae'r galw cynyddol am ymgynghorwyr rheoli wedi'i adlewyrchu yn y twf yn y nifer o ymgynghorwyr. Ond pwy i ddewis? Yn aml iawn gall dewis gwael fod yn wastraff arian, a gwaeth. Ein profiad ni o fod wedi arwain cyrff cyhoeddus blaenllaw oedd nad oedd dewis ymgynghorwyr adnabyddus bob tro yn sicrhau safon. Yr hyn oedd yn cyfrif oedd sgiliau ac arbenigedd yr ymgynghorydd unigol oedd yn gweithio ar yr aseiniad. Dyna pam, yn ein barn ni, ei bod yn bwysig i chi wybod pwy fydd yn gweithio gyda'ch mudiad chi o'r cychwyn.

Enid Rowlands - Mae gan Enid, ein Hymgynghorydd Rheoli, gefndir ym maes hyfforddi, datblygu corfforaethol a busnes ac adfywio economaidd. Mae Enid ar hyn o bryd yn Ymddiriedolwraig Genedlaethol yng Nghymru ar gyfer Sefydliad Cenedlaethol y Byddar, Aelod o Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru, y Cyngor Meddygol Cyffredinol ac Aelod o Fwrdd Consumer Focus/Llais y Defnyddwyr.
Yn ystod ei gyrfa hyd yma, bu'n Brif Weithredwraig ar Gyngor Hyfforddi a Menter, yn Rheolwraig Gyfarwyddwraig Awdurdod Datblygu Cymru yn y Gogledd, yn Gadeirydd ar Awdurdod Iechyd Gogledd Cymru ac ar Gyngor Cenedlaethol Addysg a Hyfforddiant Cymru. Gwasanaethodd Enid fel aelod o Fwrdd Darlledu S4C am nifer o flynyddoedd, ac hefyd aelod o Gyngor Darlledu BBC Cymru.
Mae hefyd wedi bod ar Fyrddau neu wedi dal swyddi Ymgynghorol gyda Chyngor Safonau Hyfforddiant y DU, Cyngor Cymru Ymddiriedolaeth y Tywysog, BT a Phwyllgorau Comisiwn Cyfle Cyfartal yng Nghymru.

Mae Huw Vaughan Thomas, ein Prif Ymgynghorydd arall, wedi arwain newidiadau enfawr ym maes rheoli mewn sefydliadau sydd ag amryw o safleoedd. Mae ganddo hefyd brofiad eang ym maes gwaith polisi cyhoeddus sy’n gysylltiedig â datblygu economaidd ac adfywio.
Mae Huw, a fu gynt yn Brif Weithredwr Cyngor Sir Gwynedd a Sir Ddinbych ac yn Gyfarwyddwr Rhanbarthol yr Adran Gyflogaeth yn Ne Orllewin Lloegr a Chymru, wedi gwasanaethu fel Aelod ar nifer o gyrff hyfforddi ac addysg yng Nghymru gan gynnwys Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru a Thasglu Ymgynghorol y Fargen Newydd i Gymru.
Ar hyn o bryd mae'n Gadeirydd ar y Gronfa Loteri Fawr yng Nghymru, yn aelod o’r Bwrdd Parôl a'r Cyngor Cymhorthion Clyw a bu hefyd yn Aelod o Gomisiwn Richard a oedd yn adolygu pwerau a threfniadau etholiadol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae gan Ymgynghoriaeth TARO rwydwaith o Ymgynghorwyr Cyswllt, sydd â phrofiad o lwyddo dros nifer o flynyddoedd yn y sector gyhoeddus a'r sector wirfoddol. Ymhlith y rhain, mae:
# Yr Athro Robert Bell sy'n wyddonydd amgylcheddol ac wedi arbenigo mewn materion sydd â wnelont â'r economi wledig.
# David Child - sydd â chefndir helaeth ym maes datblygu economaidd, adfywio trefol, mewnfuddsoddi ac ehangu busnes.
# Alec Fraser - arbenigwr ar Raglenni Ewropeaidd a datblygu rhanbarthol, mae ganddo brofiad o ymchwilio i effeithiau economaidd amrywiaeth eang o gynlluniau datblygu busnes ac economaidd.
# Peter Richarson - sydd â chefndir helaeth fel ymgynghorydd a rheolwr dros dro, nid yn unig gydag awdurdodau lleol ond hefyd gydag asiantaethau tai ac asiantaethau ym maes y celfyddydau a threftadaeth, a hynny ar lefel ranbarthol a chenedlaethol.
# Alun Roberts - sy'n aelod o bartneriaeth fusnes lwyddiannus ym maes adloniant a marchnata ac sy'n darparu cefnogaeth a chyngor i fusnesau o bob math, maint a sector yng Ngogledd Orllewin Cymru.
# Helen Rowlands - sydd â mwy na 25 mlynedd o brofiad ar lefel uwch yn y diwydiant darlledu yn y DU, gan arbenigo yn y drefn lywodraethu a datblygu polisïau creadigol.
# Meurig Royles - sy'n arbenigo mewn Datblygu Economaidd a materion Ewropeaidd ac yn cynghori datblygwyr yn y sector breifat ar Gymorth Gwladol a grantiau.
# John Smith - sydd â phrofiad sylweddol o ddarparu gwasanaethau chwilio a dethol ar lefel y Bwrdd ac ar lefel uwch reoli ar gyfer y Sector Gyhoeddus - www.publicappointments.org.uk
Mae'r arbenigedd y mae ein rhwydwaith o Ymgynghorwyr Cyswllt yn gallu ei chynnig er mwyn trefnu partneriaethau ym maes adfywio ac o ran helpu'r sector preifat i greu cyswllt â'r sector cyhoeddus, yn golygu y gallwn gynnig gwasanaeth arbenigol – Executive Partnership Solutions – gyda swyddfeydd yng Nghaerdydd, Gogledd Cymru, Sheffield a'r Alban.

Ein Cynorthwy-ydd Gweithredol yw Judith Bond, a gallwch gysylltu â hi yn ein swyddfa:
Ymgynghoriaeth Taro Cyf,
Pennant, Garth Road,
Glan Conwy,
Bae Colwyn, Cymru
LL28 5TD
Ffôn: +44(0)1492-582480
Ffacs: +44(0)8701-623915